Croeso twymgalon i'n aelodau, siaradwyr Cymraeg ac ymwelwyr i'n gwefan.

Mae Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa yn cefnogi defnyddio’r Gymraeg yn ein cyhoeddiadau, darlithoedd ac yn ein ymddiddan dyddiol. Pan fydd cyllid yn caniatau, bwriadwn cyflwyno’r wefan yn ddwyieithog, er mwyn cynnal a hybu’n hetifeddiaeth a’n hanes cyfoethog.

Cymdeithas Brycheiniog yn ymweld â thu mewn Capel Llanwrtyd

Croesawn erthyglau i’n cylchgrawn blynyddol, Brycheiniog, yng Nghymraeg a chynnigwn siaradwyr yn ein cynhadleddau cyfle i draddodi trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein posteri yn ddwyieithog a sicrhawn fod ein aelodau’n gallu siarad, os dymunant, yn eu mamiaith.

Ein bwriad, fel Cymdeithas, fel mae adnoddau’n caniatau, yw cyhoeddi mwy o’n defnydd yng Nghymraeg, gan ddarparu cyfieithiadau yn ein cylchgrawn, Brycheiniog. Ar hyn o bryd, dim ond erthyglau yng Nghymraeg a gyfieithir ar ein gwefan. ‘Rydym yn gweithio gyda sefydliadau yng Nghymru, er enghraifft, Y Llyfrgell Genedlaethol a’n Prifysgolion, i ddatblygu ein hymateb i siaradwyr Cymraeg.

Croesawn siaradwyr o bob iaith yn ddieithriad i fod yn rhan o Gymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa a sicrhawn croeso cynnes i bawb sy’n ymuno â ni yn ein cyfarfodydd.